Llyfryn Rheolau: Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru

Scope and Content

LLYFRYN RHEOLAU: Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru.

Administrative / Biographical History

Dechreuodd diwydiant llechi Cymru yn y cyfnod Rhufeinig, pan ddefnyddiwyd llechi ar do caer Segontium, Caernarfon. Tyfodd y diwydiant yn araf hyd ddechrau’r 18g, yna bu twf cyflym hyd ddiwedd y 19g. Roedd yr ardaloedd cynhyrchu llechi pwysicaf yng ngogledd-orllewin Cymru, gan gynnwys Chwarel y Penrhyn ger Bethesda, Chwarel Dinorwig ger Llanberis, Dyffryn Nantlle a Blaenau Ffestiniog, lle roedd y llechi yn dod o gloddfeydd tanddaearol yn hytrach na chwareli agored. Penrhyn a Dinorwig oedd y ddwy chwarel lechi fwyaf yn y byd, a Chwarel yr Oakeley ym Mlaenau Ffestiniog oedd y gloddfa lechi fwyaf yn y byd.[1] Defnyddir llechi yn bennaf ar doeau, ond mae darnau mwy trwchus o lechfaen yn cael eu defnyddio ar gyfer lloriau, byrddau gwaith a beddfeini ymhlith pethau eraill. Hyd at ddiwedd y 18g, cynhyrchid y llechi gan griwiau bach o chwarelwyr oedd yn talu i’r tirfeddiannwr am gael defnyddio’r chwareli. Byddent yn cario’r llechi i’r porthladdoedd ar gefnau ceffylau neu mewn certi, ac yna yn eu hallforio i Loegr, Iwerddon ac weithiau Ffrainc. Tua diwedd y ganrif, dechreuodd y tirfeddianwyr mawr weithio’r chwareli eu hunain, ar raddfa fwy. Wedi i’r llywodraeth wneud i ffwrdd â'r dreth ar lechi yn 1831, tyfodd y diwydiant yn gyflym a datblygwyd rheilffyrdd cul i gario’r llechi i’r porthladdoedd. Y diwydiant llechi oedd prif ddiwydiant gogledd-orllewin Cymru yn ystod ail hanner y 19g, a bodolai ar raddfa llawer llai mewn rhannau eraill o Gymru. Yn 1898, yr oedd 17,000 o chwarelwyr yn cynhyrchu hanner miliwn o dunelli o lechi. Yn dilyn streic hir a chwerw yn Chwarel y Penrhyn rhwng 1900 a 1903, dechreuodd y diwydiant ddirywio, a bu'r Rhyfel Byd Cyntaf yn gyfrifol am ostyngiad mawr yn y nifer o chwarelwyr. Arweiniodd y Dirwasgiad Mawr a’r Ail Ryfel Byd at gau llawer o’r chwareli llai, a chaewyd llawer o’r chwareli mwy yn ystod y 1960au a’r 1970au, i raddau helaeth oherwydd y defnydd o deils yn hytrach na llechi ar doeau. Mae rhywfaint o lechi yn cael eu cynhyrchu hyd heddiw, ond ar raddfa lawer llai.

Access Information

Dim cyfyngiadau/ No Restrictions

Acquisition Information

Adnau preifat / Private deposit.

Note

Os gwelwch yn dda archebwch y dogfenau gan ddefnyddio y rhif cyfeirnod amgen (lle ddarperidd) / Please order documents using the alternative reference number (where provided)

Other Finding Aids

Hard copies of the catalogue are available at Archifau Ynys Môn / Anglesey Archives and the National Register of Archives. It is the policy of Archifau Ynys Môn / Anglesey Archives to catalogue in the language of the document.

Physical Characteristics and/or Technical Requirements

Cyflwr da / Good condition

Archivist's Note

Lluniwyd y disgrifiad gan Helen Lewis, Archifau Ynys Môn.

https://cy.wikipedia.org/wiki/Diwydiant_llechi_Cymru

Appraisal Information

Mae'r holl gofnodiadau sy'n cydymffurfio â pholisi casglu Swyddfa Gofnodi Cyngor Sir Ynys Môn wedi eu cadw /All records which meet the collection policy of the Anglesey Archives have been retained.

Accruals

Ni ddisgwylir croniadau/Accruals are not expected